Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/150

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o awyr ffres. Wrth dalcen capel, ar ei ffordd yno, yr oedd lliaws mawr o bobl wedi ymgynnull, a dyn yn sefyll ar ei draed ar gadair yn eu mysg, yr hwn oedd yn areithio: dynesodd Llewelyn atynt i wrandaw. Yr oedd gan yr areithiwr bwnc newydd—pwnc ag oedd yn dechreu dyfod i sylw, ac yn gwneyd cyffro mawr anghyffredin mewn rhai manau——sef DIRWEST. Areithiai'n gampus—dangosai aneffeithiolrwydd yr egwyddor gymedrol at sobri'r byd—darluniai gyflwr ofnadwy dyn meddw, yn dymhorol a thragywyddola phrofai tu-hwnt i bob gwrthwynebiad, mai yr unig lwybr i wrthweithio effeithiau a chanlyniadau meddwdod, a chadw dynion, pob gradd a sefyllfa, dan bob math o amgylchiadau, ydyw rhoddi llythyr ysgar i bob math o ddïodydd meddwol —llwyrymwrthod a hwy, a chofleidio egwyddorion cymdeithas newydd oedd yn dechreu dyfod i sylw—y GYMDEITHAS DDIRWESTOL. Diweddodd trwy gyhoeddi y byddai i gyfarfod cyhoeddus gael ei gynal yn Nghapel y Tabernacl, nos dranoeth (nos Lun), pryd y byddai i amryw o wŷr galluog anerch y gynulleidfa, ac y derbynid enwau aelodau at y gymdeithas newydd.

"Dyna rywbeth!" ebe Llewelyn wrtho 'i hun. "Pe buasai cymdeithas o'r fath wedi ei sefydlu er's blynyddoedd, mi fuaswn i'n ddyn iawn heddyw, yn lle bod fel hyn yn rhyw bryf na fyddai'n werth gan rywun roi ei droed ar fy mhen. Llwyrymwrthod sydd raid; a rhaid hefyd cael cadwyni cymdeithas i gadw rhai o fy math i at y penderfyniad y mae grym mewn undeb—dylanwad mewn cymdeithas. Os Duw a wel yn dda roddi i mi nerth, mi a af i'r cyfarfod yna nos yfory, ac mi a ardystiaf."

PENNOD XXI.

"A DDEUWCH chwi gyda mi i Gapel y Tabernacl heno?" gofynai Llewelyn Parri i'w wraig.

Codai Morfudd ei llygaid mawrion, gan edrych ar ei gŵr mewn syndod am ei fod yn gofyn peth mor ddyeithr.

"Beth sydd yno?" hi a ofynodd.

"Areithio ar ryw bwnc dyddorol. Yr wyf yn gobeithio y gwneiff clywed areithio da ryw les i mi," meddai Llewelyn.

"Deuaf, was, gyda phleser, er fod fy nillad yn bur garpiog." "Mae'n dda genyf glywed. Ac ni a gymerwn y plant yno hefyd."

Edrychai Llewelyn mor garedig ar Morfudd a'r plant, nes gwneyd iddi hi wylo o lawenydd. Yr oedd caredig-