Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/154

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Pa beth yr ydych am ei wneyd? Pa oruchwyliaeth yr ydych am ei dilyn?"

"Allan ar feddwl chwilio am rywbeth y daethum," atebai Llewelyn. "Pa beth a gaf ni's gwn, ond yr wyf yn hyderu na edy rhagluniaeth fi yn hir heb rywbeth."

"Na wnaiff. Y mae genyf fi le i chwi am ychydig, os dymunwch ei gymeryd. Rhoddaf bum-swllt-ar-ugain yn yr wythnos i chwi, os ewch i fy swyddfa yn yr yard goed sydd yn y porthladd yna, i edrych ar ol fy llyfrau. Cewch fyn 'd yno heddyw, os mynwch, a thyna i chwi gyflog wythnos yn mlaen llaw, er mwyn i chwi allu ceisio pethau anghenrheidiol i chwi a'ch teulu am yr wythnos."

"Diolch yn fawr i chwi, syr!" ebe Llewelyn, a'i lygaid mawrion yn llenwi gan ddagrau. "Duw a dalo i chwi!" Prysurodd ein harwr gartref yn ei ol, i hysbysu'r newydd da i'w wraig, a rhoddodd y pump-ar-hugain iddi bob ffyrling. Yn mhen y mis, yr oedd Llewelyn Parri a'i deulu wedi symud o'r heol afiach y trigent ynddi, ac wedi cymeryd tŷ iddynt eu hunain mewn parth arall i'r dref. Dechreuasant hel tipyn o ddillad a dodrefn—daeth y plant i ymfywiogi a chwareu mor hoenus ag erioed, ac adferwyd cryfder a sirioldeb i gyfansoddiadau'r cyfan. Cyfodwyd cyflog Llewelyn i ddeg-ar-ugain gan ei feistr, mewn cydnabyddiaeth am ei dalent, ei ddiwydrwydd, a'i gallineb yn edrych ar ol ei fusnes. Aeth y sôn am dano ar hyd yr ardaloedd, a bu yr olwg ar y cyfnewidiad a wnaeth Dirwest arno ef a'i deulu, yn foddion i gymhell dwsingau o feddwon i ardystio.

Cymhellwyd Llewelyn i draddodi araeth Ddirwestol mewn cyfarfod oedd i gael ei gynal yn yr awyr agored. Gwrthododd addaw areithio, ond addawodd wneyd sylw byr ar ei fywyd ei hun. Gwelwyd cannoedd o lygaid gwlybion yn y gynulleidfa, wrth iddo fyned yn mlaen i siarad yn debyg i hyn:

"Fy nghyfeillion, os oes arnoch eisiau profi beth yw afiechyd, gwallgofrwydd, gwaradwydd, tlodi, a thrueni, byddwch feddwon fel y bum i. Os oes arnoch eisiau wybod beth yw hoender, tawelwch, parch, llawnder, a dedwyddwch, ardystiwch eich cymeradwyaeth o egwyddorion y gymdeithas Ddirwestol. Os oes arnoch eisiau prawf byw o ddrygedd meddwdod a daioni Dirwest, edrychwch arnaf fi. Bum yn dlawd a darostyngedig, a llusgwyd fi trwy byllau budraf llygredigaeth a gwarth. Bu braidd i mi golli pob peth sy'n gwneyd bywyd dyn ar y ddaear yn werth ei gadw. Dyoddefodd fy ngwraig a'm