bo diferyn i'w gael, ag a fyddai atal dyn mewn anialwch rhag myned ar ei waethaf i gyrhaedd y Boa constructor; pan fo ei llygaid wedi ei sefydlu yn deg ar lygad ei hysglyfaeth."
"Wel, gadewch i ni weddïo drosto, ynte," meddai Morfudd, "a thros bob un sydd mor anffodus ag yntau."
" Amen," atebai Llewelyn. ****** Tua chwech o'r gloch y prydnawn, dychwelai gwas Brynhyfryd o'r dref, wedi bod yno ar neges. Yr oedd ganddo stori bwysig i'w hadrodd; ac ymddangosai fod yr hyn a welodd yn pwyso gryn dipyn ar ei feddwl. Aeth at ei feistr, a dywedodd
"Wel, mistar, 'rydw i'n fwy parod i seinio titotal heiddiw nag yrioed o'r blaen."
"Mae'n dda iawn genyf glywed hyny, Huw," meddai Llewelyn Parri. "Ond, atolwg, pa beth sydd wedi dwyn y fath gyfnewidiad yn dy farn?"
"Gwarchod pawb! welis i rioed ffasiwn beth yn fy mywyd ag a welis i heiddiw!"
"Beth oedd?"
"Wel, fel roeddwn i'n myned i lawr Cae'r Dên, mi welwn dwr o bobol. Eis yno i wel'd beth oedd y mater, ac ar ol stwffio cryn lawer trwy'r dorf, mi welis yr hyn na anghofia i mono fo byth.'Roedd yno ryw griadur ar lun dyn, a'i wyneb gin lased a lliw glas, a fflam fel fflam frwmstan yn dod allan o'i safn. Mi ofynis i ryw ddyn, fel darn o wr bynheddig, beth oedd y mater, a deudodd hwnw fod y dyn a welwn felly wedi dod i'r dref bore heiddiw yn feddw; a'i fod wedi gwneyd i oreu i gael dïod yn mhob tafarn, ond am nad oedd ganddo fo arian i dalu, roe neb ddim dafn iddo fo. O'r diwedd, medrodd fyn'd i iard P Arms; torodd dwll yn nhalcen balir o chwisgi, oedd newydd i osod yno, ac yfodd ei wala, nes aeth ar dân o'r tu fewn. Mi gwelis i o, Mistar," ychwanegai'r llanc, gyd â'i ddwylaw i fynu,—"mi gwelis i o'n llosgi; ac mi gwelis i o'n marw! Yfa i byth ddafn o gwrw na licar ond hyny, Mistar. Ac mi seinia ditotal rwan, i chwi."
"Da machgen i," meddai ei feistr. "Dyna'r peth saffa fedri di wneyd. Af i nol y llyfr y munud yma."
Ymaith a'r ddau am y llyfr, ac ardystiodd Huw yn ddibetrus.
Dichon na chawn achlysur i sôn ychwaneg am Huw druan, eto. Gan hyny, goddefer i ni grybwyll yn y fan yma ddarfod iddo, ar ol parhau'n ddirwestwr selog am