BEIRNIADAETH EBEN FARDD,
AR Y CHWECH FFUG-CHWEDL—NOFEL GYMREIG—
Y MEDDWYN DIWYGIEDIG YN ARWR.
ANTURIODD chwech o ysgrifenwyr galluog i gylch yr ymrysonfa ar y testun hwn, y cyntaf a ddaw dan ein sylw, yw "Henry James," gan "WILL YR HEN DY;" agorir yr olygfa gychwynol yn swydd Fflint; rhyw ganolig y mae yr awdwr yn gallu cynal i fyny ddyddordeb digonol yn y dechreu; ond os gall gario y darllenydd yn mlaen hyd y drydedd bennod, nid rhaid ofni y gorphwysa wed'yn nes gorphen y darlleniad drwyddo, mae y dyddordeb yn cryfâu yma, a'r dygwyddiadau yn bur amrywiol a tharawiadol; gofidir ni er hyny, wrth fyned yn mlaen, trwy ei anmherffeithrwydd yn yr iaith, nid wyf yn cyfeirio at y colloquial style, neu y tafod-ddull cydlafareddol sathredıg, sydd yn gweddu yn briodol i rai o'r personau a'r nodweddiadau a ddygir ger bron, ond iaith yr hanesydd ei hun, ynghyd â'r nodweddiadau uwchraddol, y rhai a ddysgwylid i arfer iaith goeth a chaboledig. Cyfarfyddir a lliaws o enghreifftiau o gystrawen chwithig, priod-ddull estronol, ac orgraph bur drwsgl ac anmhrydferth. Nid wyf yn gweled anghenrheidrwydd i mi chwyddo y nodiadau hyn â rhestr o'r