mor hyfryd, a'r gwyliau mor agos, nid rhyfedd bod ysbryd gwaith yn brin, a'u bod yn dyheu am eu rhyddhau y prynhawn Iau hwnnw.
Ac o holl blant ysgol Trelan, mae'n debyg nad oedd neb yn llawenhau mwy am eu gollwng y prynhawn hwnnw, ac hefyd am fod y gwyliau mor agos, na'r ddau gyfaill mynwesol, Wil y Morfa, a Dic, mab Ifan Huws, y crydd. Hwynthwy oedd y ddau fachgen hynaf yn yr ysgol. Yn wir, yr oeddynt eisoes yn gwisgo trowsysau llaes, ac mewn oed i'w rhyddhau o'r ysgol, ond bod eu rhieni yn eu cadw yno nes y caent waith,—nid yn gymaint er mwyn iddynt ddysgu, ag am y rheswm eu bod yn ddiogelach, yn nhyb eu rhieni, yn yr ysgol na phe baent gartref heb ddim i'w wneud. Dau fachgen cryf ac iach oeddynt,—digon abl i weithio pe ceid gwaith iddynt; a dau gyfaill calon, bron yn wastad gyda'i gilydd, ac heb gadw dim cyfrinach, y naill oddiwrth y llall.
"Dim ond fory eto, Dic annwyl," ebr Wil wrth ei gyfaill, a tharo'i law ar ei ysgwydd, wrth gychwyn o'r ysgol, y prynhawn Iau hwnnw. "Brysia i lawr,—mi fydda i'n dy ddisgwyl di, cofia."
"Ni fydda i ddim dau funud," oedd yr ateb, "os na fydd ar mam eisiau neges."
"P'un bynnag am hynny, paid a bod yn hir, was; nid â i ddim i lawr o dy flaen di, cofia," ebr Wil, ac i ffwrdd ag ef, dros y gamfa i'r llwybr a arweiniai o ymyl yr ysgol, heibio i'w gartref, i lan y môr.
Deallai Dic o'r gorau mai ystyr i lawr' Wil oedd glan y môr. Dyna hoff gyrchfan y ddau bob cyfle a gaent trwy'r haf. A'u hoffter o lan y môr a barai