PENNOD XIV
SYNDOD THOMSON
DAETH yn brynhawn o wres arteithiol, a'r haul yn taflu ei belydrau tanbaid ar eu pennau o wybr glir: a rhodiai Bob, a Dic, a Cooke, ar hyd y dec, yn sôn ychydig, ac yn myfyrio llawer, ar ddigwyddiadau rhyfedd y dydd hwnnw, ac yn cadw eu llygaid ar y bwlch yn y reef, gan ddisgwyl am ddychweliad y cwch. Ond aeth awr ar ôl awr heibio, a dim arwydd o'r cwch yn ymddangos. Cynhyddai eu pryder fwyfwy gyda threigl yr amser. Ai Bob i lawr i'r caban yn awr ac yn y man i roi adroddiad i'r mêt, a phob tro yr âi i lawr heb newydd, gellid darllen y siom ar wyneb Miss Sharpe. Pan aeth Bob yn ôl o'r caban i'r dec y pumed tro, dywedodd Dic wrtho: "Choelia i byth na chlywais i ryw sŵn ar yr ynys."
"Beth glywaist ti, Dic?" gofynnodd Bob yn gyffrous; "Wn i ddim yn iawn beth oedd o," ebr Dic, "ond roedd o'n swnio fel tasa llawer o bobl yn gweiddi."
"Chlywaist ti ddim sŵn saethu?" gofynnodd Bob, a sŵn angerdd yn ei lais.
"Naddo," oedd yr ateb.
Clustfeiniodd Bob, a chyn hir, clywodd ddigon gadarnhau'r hyn a ddywedasai Dic. Yn ddios, yr oedd rhyw sŵn dieithriol yn cael ei gludo gan yr awel