Ond nid yn hollol i'r lanfa. Er mwyn diogelwch, rhedwyd trwyn y cwch i'r lan rai llathenni'n mhellach na'r lanfa,—i gysgod llwyn tew o goed a dyfai ar lan y dŵr.
"Aros di yma, Wil," ebe'r Capten, wrth godi gyda Mr. Allen i fynd i'r lan. "Mi fedri gychwyn y peiriant pe bai angen, oni fedri?"
"Medraf, syr," ebr Wil yn grynedig. Deallai erbyn hyn y bwriadent ei adael ef i wylio'r cwch, a dyna a achosai'r cryndod yn ei lais. Gwell o lawer a fuasai ganddo gael mynd i'r lan gyda'r ddau ddyn, i ba beryglon bynnag yr aent, na chael ei adael yn y fan honno wrtho'i hunan, i wynebu na wyddai ba beth. "Cadw dy lygaid a'th glustiau'n agored," meddai'r Capten, wedi iddo lanio, "ac, os byddi di'n amau perygl, neidia i'r cwch a dos allan i'r lagŵn o'u cyrraedd nhw. Byddwn yn ôl cyn hir."
"Ga i ddod i'r lan felly?" gofynnodd Wil.
"Cei, ond i ti gadw yn ymyl y cwch, yn barod i neidio iddo os daw perygl," ebe'r Capten. "Dowch, Mr. Allen."
Ac ymaith â hwy drwy'r coed, a Wil yn edrych yn hiraethlon ar eu hôl. Awn gyda hwynt i weld beth a ddigwyddodd iddynt, gan adael Wil gyda'r cwch.
"Rhyw ddau ganllath o'r lanfa y mae'r bwthyn," ebr Mr. Allen wrth ei gydymaith.
Troedient yn ofalus rhag gwneud twrw, ac edrychent o'u cwmpas yn ochelgar, gan sefyll bob rhyw ddeg cam i glustfeinio. Yna ymlaen drachefn, wedi eu sicrhau eu hunain nad oedd perygl.