iddynt deimlo caethiwed yr ysgol mor feichus yn y tywydd braf. Tŷ bychan oedd y Morfa, cartref Wil, tua hanner y ffordd rhwng pentref Trelan a glan y môr. Yr oedd siop Ifan Huws, y crydd, tad Dic, yng nghanol y pentref, a rhyw waith deng munud o gerdded oddiyno at y môr, hynny ydyw, deng munud i ddyn cyffredin, ond llawer llai a gymerai Dic yn aml i wneud y daith i lawr, faint bynnag a gymerai i fynd i fyny. Amrywiai hynny yn ôl yr amgylchiadau.
Pentref bychan yn agos i lan y môr, ac yn llechu wrth odre mynydd tra uchel yn Sir Gaernarfon, ydoedd Trelan; a'i gylchfyd,—y mynydd a'r môr,—yn chwarae rhan bwysig ym mywyd y pentrefwyr. Gwir fod yno dir amaethyddol a rhai ffermydd yn yr ardal; ond ar y môr, neu ynglŷn â'r chwarel oedd ar lechwedd y mynydd y tu ôl i'r pentref, yr enillai mwyafrif y boblogaeth eu cynhaliaeth. Hen forwyr oedd rhai o weithwyr y chwarel,—rhai wedi treulio eu hieuenctid ar y môr, ond, ar ôl cyrraedd canol oed, wedi ei adael i gymryd gwaith ar y tir. Ond, er gadael o honynt y môr fel galwedigaeth, parhâi eu diddordeb yr un mor fyw yn y môr a'i bethau. Roedd gan lawer o honynt gychod yng nglan y môr, a bron bob min nos yn yr haf, ar ôl gwaith y dydd yn y chwarel, glan y môr fyddai'r hoff gyrchfan, ac âi amryw allan gyda'r cychod i bysgota yn y bae.
Nid rhyfedd felly bod anian y môr yn gryf yn Wil a Dic. I'r môr y carent fynd, pe caniatâi eu rhieni. Ond yr oedd Ifan Huws yn bendant na chai Dic fod yn forwr, a'i fam yn dweud, "Gwell i ti rywbeth ar y tir, machgen i, na'r hen fôr 'na." Ar y môr y