chwarddai at ei ffolineb, ond yr oedd yn chwys oer drosto,—nid effaith y gwres naturiol, er bod hwnnw'n fawr, ond effaith ei ofnau. Ni chymerai ddiddordeb o gwbl yn y trysor erbyn hyn,—ni cheisiodd edrych beth a ddodasai'r Capten yn y locker, er nad oedd neb na dim i'w luddias pe dymunai wneud hynny. Nid gwaeth ganddo pe bai'r trysor yng ngwaelod y môr,—y cwbl oedd ar ei feddwl ef oedd y perygl yr oedd ef ynddo. Hawdd iawn i ti, ddarllenydd, feio Wil, ond ceisia ddychmygu dy weld dy hun yn ei le! Sut y teimlet ti, tybed, dan y fath amgylchiadau, yn yr oedran tyner yr oedd Wil ynddo? Calon ddewr oedd gan Wil i wynebu peryglon cyffredin, fel y gwyddom, ond yr oedd y gwaith annifyr oedd ganddo i'w wneud mewn unigedd trymaidd ar yr ynys ddieithr wedi bod yn ormod iddo.
Yn sydyn, ac efe yn y cyflwr hwn, wedi colli ei hunan—hyder, clybu sŵn dieithr yn dod o'r cyfeiriad yr aethai Larkin ac Allen iddo. Tybiodd ar y cyntaf mai ei ddychymyg oedd yn chwarae tric ag ef, ond, na, wedi iddo wrando'n astud, daeth cyffelyb sŵn drachefn,—sŵn digamsyniol, a sŵn anhyfryd iawn i'w glust. Gwaedd ar ôl gwaedd,—gwaedd anwar i glust Wil, ac yna, sŵn ergyd o ddryll, a gweiddi drachefn—crochlefain dynion wedi colli pob llywodraeth arnynt eu hunain. Os oedd cyflwr Wil yn ddrwg o'r blaen, gwnaeth hyn ef lawer yn waeth. Collodd hynny oedd ganddo'n weddill o bresenoldeb meddwl, a ffodd. Do, fe ffodd yn ddychrynedig. Anghofiodd bopeth am y cwch a'r gwaith a ymddiriedid iddo, a rhedodd nerth ei draed, heb wybod i ble y rhedai. Credai,