Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Mêt y Mona.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XVI
Y CARCHARORION

Ar ôl gadael y llong yn hwyr yn y prynhawn, aeth Bob a Miss Sharpe yn eu cwch trwy'r bwlch yn y reef i'r lagŵn. Deallai Bob y gwyddai'r ferch fwy nag ef am yr ynys, ac yr oedd yn fodlon gadael y trefniadau yn ei llaw hi, ac ufuddhau i'w chyfarwyddiadau. Tybiai Bob y glaniai ar yr ynys gyferbyn a'r bwlch, ond barnai Miss Sharpe mai rhwyfo ar hyd y lagŵn a fyddai orau iddynt, a chadw eu llygaid ar y lan er ceisio gweld y cwch modur. Aethant ymlaen fel hyn am ysbaid heb weled na chlywed dim. Disgwyliai Bob i Miss Sharpe ddweud rhywbeth wrtho am ei chysylltiad blaenorol â'r ynys. Ond ni chyfeiriodd at hynny. Mae'n bosibl bod ei meddwl wedi ei sefydlu gymaint ar y presennol fel nad oedd ynddo ar y pryd le i'r gorffennol. Pan ddaethant at y lanfa, ebr Miss Sharpe, "Dyma'r lle". Trowyd i mewn, a glaniwyd, ond ni welent y cwch modur, oedd, fel y cofir, wedi ei guddio yng nghysgod y llwyn ychydig lathenni ymhellach, ac yn anweledig o'r lanfa. Am funud neu ddau, yr oedd Miss Sharpe yn amlwg wedi ei thaflu i ddryswch, ac ni allai Bob awgrymu dim i'w helpu o'r dryswch.

"Rhaid i ni adael y cwch yma," ebr hi, ar ôl ystyried yn ddwys am beth amser, "a mynd i fyny at y tŷ. Cofiwch am gadw'r dryll yn barod."