ac yn ôl i'r llong trwy'r un bwlch ag y daethom allan?"
Gwenodd Miss Sharpe. "Na," meddai, "prin y credaf y gwnaent hynny. Y mae dros ugain milltir o daith i amgylchu'r ynys, a byddai rhai o'r brodorion yn sicr o'u gweld, ac nid wyf yn credu y dymunent hynny."
Gwelodd Bob nad oedd sail i'w ddyfaliad. "Felly," meddai, "mae'n rhaid mai trwy fwlch arall yr aethant allan, am ryw reswm neu'i gilydd,—neu—
"Neu beth?" gofynnodd y ferch yn wyllt, gan syllu yn ei wyneb.
Ond ofnai Bob roi ffurf mewn geiriau i'r syniad newydd a ddaethai i'w feddwl. Beth, tybed, a fyddai ei effaith ar Miss Sharpe?
Ond yr oedd hi'n disgwyl wrtho. "Dowch," meddai, "neu beth?"
"Ai tybed eu bod wedi cynllunio i ddianc ryw ffordd arall gyda'r trysor yn lle dychwelyd atom?" gofynnodd yn ofnus, gan wylio am effaith ei eiriau.
"Nid wyf yn amau na hoffent wneud hynny," ebr hithau yn chwerw ei thôn, "ond i ble y gallent fynd?"
"Fe wyddoch chwi hynny'n well na mi," oedd ateb Bob. Nid oedd hi wedi cyffroi gymaint wrth ei ateb ag yr ofnai.
"Gallent, mae'n sicr," ebr hithau, "fynd i ynys arall, ond faint gwell fyddent o hynny? Ac y mae Awstralia'n rhy bell iddynt fentro hwylio yno mewn cwch mor fychan."
Ni wyddai Bob beth i'w ateb ymhellach. Roedd yn ormod o broblem iddo. Roedd hithau'r ferch yn