yr un dryswch yn hollol. Bu distawrwydd am ennyd. Yna meddai Miss Sharpe, "Mae arnaf ofn mai wedi chwarae tric â ni y maent, ac wedi mynd i rywle arall gyda'r trysor, er mwyn iddynt gael y cyfan iddynt eu hunain."
"Beth am Wil tybed?" gofynnodd Bob, mewn mwy o bryder am ei gyfaill ieuanc o Gymro nag am y trysor.
"Fe edrychant ar ôl Wil tra y bydd arnynt angen ei wasanaeth, ond, wedyn, druan o hono," oedd ei hateb chwerw. A thristhaodd Bob wrth ei geiriau.
Ond ymhen ennyd cofiodd am un peth arall, "Beth am y waedd a glywsom o fwrdd y llong?" gofynnodd.
"Nid wyf yn sicr beth a glywsoch," ebr hithau, "ac mae'n bosibl nad oedd unrhyw gysylltiad rhwng y waedd a'r bobl yr ydym ni'n eu ceisio. Mae'n fwy na thebyg gennyf nad oedd."
Ond cyn gynted ag y dywedodd hyn, clywyd bloeddio mawr a churo tympanau oddidraw ar yr ynys.
Neidiodd Miss Sharpe i fyny." "Clywch," meddai'n wyllt.
Prin yr oedd angen gofyn i Bob wrando: ni allai lai, gan mor ddieithr i'w glustiau oedd y sŵn.
"Nid ydynt ymhell oddiyma," ebr Bob yn gyffrous. "Beth all fod y mater?"
"Rhaid i ni fynd i fyny atynt," ebe'r eneth yn wyllt. "Dowch," gan gydio ynddo.
"Ond a ydyw'n ddiogel i ni?" gofynnodd Bob, gan geisio'i hatal. "Beth yw ystyr y bloeddio? Ni ddymunwn i ddim niwed ddigwydd i chwi."