Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Mêt y Mona.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrth weld Bob a merch ddieithr iddo yn cael eu codi i'r llwyfan. Gwnaeth Bob ei ddarganfyddiad yn hysbys i Miss Sharpe, ac, wedi iddi sibrwd ychydig eiriau wrth y pennaeth, rhoddwyd gorchymyn i godi Wil hefyd i'r llwyfan. Dawnsiai'r dyrfa o flaen y llwyfan, gan wneud pob math o ystumiau a chreu twrf dirfawr. Ni allai Wil, mwy na Bob, ddeall yr amgylchiadau rhyfedd. Wedi ei gael at ei ochr, ceisiodd Bob egluro iddo y rhyfeddodau ynglŷn a'r mêt. Ryw hanner eu deall a wnaeth Wil ar y pryd, ond ni allai ddeall o gwbl sut y tynnwyd ef o garchar mewn amrantiad a'i osod i eistedd mewn lle o anrhydedd.

Ac, yna, ynghanol y rhialtwch, codwyd gwaedd newydd. A'r peth nesaf a welodd Bob a Wil oedd nifer mawr o'r brodorion yn rhuthro o'r lle i bob cyfeiriad.

"Beth all fod y mater?" gofynnodd Bob yn syn i Miss Sharpe.

"Y ddau garcharor sydd wedi dianc," ebr hithau. "Ond fe'u delir."

"A ydych yn meddwl y lleddir hwynt?" gofynnodd Bob yn bryderus.

"Rwyf wedi bod yn eiriol fy ngorau gyda Shimu,—dyna enw'r pennaeth, wyddoch chi,—ar eu rhan, ond, hyd yn hyn, y mae'n bendant am eu lladd," ebr hithau. "Ni fynnent er dim i neb gyffwrdd yn nhrysor fy nhad yn y bwthyn. Ond, heblaw hynny, bu un o'r ddau, Capten Larkin, mae'n debyg, yn ddigon ynfyd i saethu at un o'r brodorion, a'i anafu. Felly ofnaf mai gobaith gwan sydd i'w hachub."

"Gobeithio y llwyddant i ddianc ynteu," ebr Bob.