yn ymyl y cei, lle y llwythid y llongau a ddeuai i gludo cerrig o'r chwarel. Yno, yng nghysgod y cei, caent ddwfr dwfn, tawel, ac yno yr oedd y cychod. Tynnid y cychod bychain i'r lan ar y tywod pan na ddefnyddid hwynt, ond nofiai y rhai mwyaf,—cychod hwyliau, wrth eu hangorion, ychydig lathenni o'r lan. A dyna'r hwyl a gai Wil a Dic wrth ymdrochi,—nofio at un o'r cychod, dringo iddo, a phlymio o hono i'r dwfr. Weithiau, pan na fyddai llongau yn cael eu llwytho, dringent i'r cei i blymio i'r dwfr oddiyno, ond ni feiddient wneud hynny, o byddai gweithwyr ar y cei.
Y prynhawn hwn, nid oedd llong wrth y cei, na neb yn y golwg ar na chei na thraeth; ac felly, yr oeddynt yn rhydd i wneud y defnydd a fynnent o'r cychod a'r cei. Ac fe wnaethant hynny. O! yr oedd yn ardderchog yn y dwfr y prynhawn hwnnw, a'r ddau fachgen yn eu mwynhau eu hunain fel dau bysgodyn yn eu helfen. Ond, wedi bod o honynt wrthi'n brysur am rai munudau'n plymio a nofio a gwneud pob math ar gampau yn y dwfr, aethant i eistedd am ychydig ar y lan i orffwyso, heb ymwisgo.
Yn sydyn, fel pe bai rhyw syniad newydd wedi taro i'w feddwl, gofynnodd Wil: "Ddoi di allan am dro yn y 'Wennol,' Dic?"
Ni allsai Wil awgrymu dim yn fwy wrth fodd calon Dic na thaith ar y môr yn y 'Wennol,' cwch modur Huw Elis, ewythr Wil; ac mae'n debyg y gwyddai Wil hynny wrth ofyn y cwestiwn. Newydd gael y cwch yn nechrau'r haf yr oedd Huw Elis, ac nid oedd gan neb arall yn Nhrelan gwch o'r fath. Llawer