Prawfddarllenwyd y dudalen hon
diogel y lagŵn, heb achos i ofni'r storm agoshaol. Ond wedi cyrraedd y noddfa, nid ymddangosai Thomson yn dawel. Edrychai'n barhaus ar yr ynys, ac amheuodd Dic a Cooke fod arno ofn. y brodorion. A chyn hir, gwelsant eu bod yn gywir,—dyna oedd yn ei boeni. Daeth at Cooke, ac erfyniodd ar iddo symud y llong i gysgod craig ar y lan,—ychydig i'r dde,—i fan nad oedd modd i neb weld y llong oddiar yr ynys. I'w foddhau, gwnaed hynny, ac erbyn hyn torasai y storm. O'u hangorfa dawel, gwelent y tonnau gwyllt yn torri'n drochion ar y tuallan i'r reef, ac ambell dro, cynhyrfid wyneb tawel y lagŵn gan ambell don fawr a ysgubai drwy'r bwlch. Arswydent wrth feddwl beth a fuasai tynged eu llong a hwythau, pe na ddaethent trwy'r bwlch mewn pryd.