"Tybed fod y Capten wedi gallu mynd i ffwrdd gydag un o'r cychod neithiwr?" gofynnodd Wil, i droi'r ymddiddan yn ôl at y ffoaduriaid, gan na ddymunai wrando arnynt yn trafod y storm a'i pheryglon i'w gyfaill, Dic.
"Ond byddai'n amhosibl iddynt fynd i'r llong neithiwr yn y fath storm" ebr hi. "Fasa'n well i Wil a minnau fynd i lawr i edrych a ydyw'r cychod yna?" gofynnodd Bob.
"Wel, ie, dyna a fyddai orau," ebr Miss Sharpe, "ac os medrwch, ceisiwch edrych a ydyw'r llong yna."
"Reit," ebr Bob, ac ymaith ag ef gyda Wil, ac i lawr at y lanfa. Cawsant fod y cwch rhwyfo yno, fel y gadewsid ef.
"Ymhle y gadewaist ti'r cwch modur?" gofynnodd Bob.
"Draw yn y fan hyn," ebr Wil, a thorri llwybr iddo'i hun trwy'r drysni, a Bob yn ei ddilyn.
"Roeddech chi wedi ffeindio lle slei i'w guddio," ebr Bob; "nid oedd yn rhyfedd i ni fethu a chael hyd iddo."
Ac wedi mynd drwy'r drysni, cawsant fod y cwch modur yno hefyd, fel y gadewsid ef gan Wil, a'r ddau gydaid o drysorau yn y locker.
"Rydw i'n synnu na basan nhw wedi mynd i ffwrdd gyda rhain," ebr Wil.
"Achub eu bywydau o afael y brodorion oedd eu hamcan cyntaf, mae'n sicr," ebr Bob, "a chofia di, roeddyn nhw'n llawer iawn mwy awyddus i ddianc wedi gweld Miss Sharpe. Mae'n debyg yr amheuent na wnai hi lawer o lês i'w hachos. Ac wedyn, wyddost ti, fe ddaeth y storm ar eu gwarthaf."