yr ynys, ar hyd y lagŵn gydag un o'r cychod. Ni chymer lawer o amser i chwi wneud hynny. Fe ddaw Bob gyda chwi, mae'n sicr."
A phan ofynnwyd iddo, bodlonodd Bob i fynd ar awgrym Miss Sharpe, er na chredai yr enillid dim drwy hynny ond tawelu meddwl cythryblus Wil.
Gyda'r cwch modur yr aethant i gael arbed y drafferth o rwyfo, a'r ddau fag trysor o hyd yn y locker.
"Mi awn ni rownd yr ynys i ti gael ei gweld hi i gyd," ebr Bob, a chytunodd Wil yn barod iawn. Ac felly, nid yn ôl am eu bwlch hwy yr aethant, ond ymlaen i ran o'r lagŵn na fuasent ynddo o'r blaen. Er mor bryderus oeddynt ynghylch llawer o bethau, ni allent lai na mwynhau y daith yn y cwch. O! roedd yn hyfryd, a'r olygfa amrywiol ar lannau'r ynys yn wledd i'r llygaid. Ymlaen â hwy gan edrych weithiau i lawr i'r dwfr tawel a syllu ar y rhyfeddodau oedd i'w gweld yno, a thro arall, yn rhoi eu holl sylw i brydferthwch yr ynys gyda'i chyfoeth o liwiau heirdd mewn coedydd, a blodau, a ffrwythau.
Pan gyrhaeddasant gyferbyn a phen eithaf yr ynys (o'u bwlch hwy), gwelsant fod y goedwig yno'n dewach nag ym mhen arall yr ynys. Pan oedd Bob yn ceisio egluro i Wil beth a achosai hynny,—y cyfeiriad y deuai'r glaw o honno amlaf,—yn sydyn clywsant floeddio uchel o ganol y goedwig.
"Ust," ebr Bob. "Beth sydd yna, tybed? Atal y peiriant am funud i ni gael clywed."
Ac ataliwyd y peiriant, ac eisteddodd y ddau i wrando ar y bloeddio.