Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Mêt y Mona.djvu/138

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Beth sydd yna, tybed?" gofynnodd Wil. A'r un munud, clywyd ergyd o ddryll.

"Y Capten ac Allen sydd yna, a'r brodorion wedi cael hyd iddyn nhw," ebr Bob yn gynhyrfus. "Beth wnawn ni, dywed? Fasa'n well i ni lanio?"

Ond, cyn iddo orffen llefaru, gwaeddodd Wil, "Edrych, Bob, pwy sydd yn sefyll ar y lan." Edrychodd Bob, a gwelodd Capten Larkin yn sefyll ar fin y dwfr, a golwg wyllt arno.

"Ple mae Allen, tybed?" ebr Bob. "Cychwyn y peiriant, Wil, rhaid i ni droi i mewn i drio'i achub."

Ufuddhaodd Wil. Ond yr oedd y bloeddio erbyn hyn yn eu hymyl. Edrychasant i'r lan. Yr oedd pennau duon yn ymddangos yn y coed yn ymyl y Capten. Yr oedd yntau wedi troi i'w hwynebu. Yna, yn sydyn, gwelodd y bechgyn ef yn tanio'i ddryll, ac yna'n ei daflu ei hun i'r dwfr.

"Brysia, Wil bach, y mae'n nofio allan atom," ebr Bob yn gyffrous ar ei draed yn y cwch. "Hei, Capten."

Roedd tua deugain llath rhwng y Capten a'r cwch pan ddywedai Bob hyn. Roedd y brodorion ar y lan. Yn sydyn, pan oedd Bob yn gwylio'r Capten yn dod yn nes, nes at y cwch, clywodd waedd o fraw oddiwrth y brodorion. "Mao, mao," gwaeddent, a phwyntient at y dwfr yn ymyl y Capten. Trodd Bob a Wil i edrych, a gwelsant don ysgafn yn chwarae ar wyneb y dwfr. Roedd gwaedd y brodorion wedi effeithio ar y ddau nes peri iddynt ofni, er na wyddent rhag beth. Ond, yn awr, gwelodd Bob y perygl. "Siarc sydd yna, Wil annwyl," meddai mewn braw. "O!