Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Mêt y Mona.djvu/144

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

syrthio mewn cariad â mi, ac yn gofyn i mi ei briodi."

"Mae arnaf ofn felly mai pur ddiolwg ydyw i chwi gael ymadael," ebr Bob.

"Rhaid i mi feddwl am ryw ffordd i ddianc, ynteu," ebr hithau'n benderfynol.

Yr oedd Bob yn siomedig iawn am i'r cwmwl newydd hwn godi yn eu ffurfafen, ac ni wyddai sut i'w gael ymaith. Bu Wil ac yntau'n trafod y mater lawer gwaith, ac yn ceisio meddwl am gynllun i gael Miss Sharpe o'r ynys. Ond y cwbl yn ofer. A chyn hir, dechreuodd y pennaeth ddangos ei anfodlonrwydd i'r ddau aros yn hwy ar yr ynys, ond ni fynnai ollwng y ferch i fynd gyda hwynt. Pe gallsai Bob siarad iaith yr ynys, gofynasai i'r pennaeth ei rhyddhau; ond yn niffyg y wybodaeth angenrheidiol, ni wyddai beth i'w wneud. Gwelodd, fodd bynnag, mai gorau po gyntaf iddo ef a Wil glirio o'r ynys. A daeth y cyfle diwethaf iddynt gael gweld Miss Sharpe yn ei bwthyn. Yr oedd Shimu wedi rhoi siars iddi na chaent ddod yno wedyn. Cyfarfod pur drist a fu, ond yr oedd yno wawr gobaith na chymerai mo'i orchfygu gan unrhyw anhawsterau.

"Sut y gallwn eich cael oddiyma?" gofynnodd Bob yn bryderus iddi. "Nid ydym am fynd i Brydain heboch, gan eich bod yn awyddus i ddod."

"Peidiwch a mynd o olwg yr ynys am dipyn gyda'r llong," ebr hithau, "ac feallai y caf gyfle i ddianc."

Bu Bob yn ddistaw am ennyd. Yna meddai, ar ôl ystyried y broblem, "Bydd yn rhaid i ni fynd o olwg yr ynys gyda'r llong, neu fe'n gwelir gan y