O'r pentref i fyny hyd i ben arall yr ynys yr arferent fod ynddo fwyaf. Felly yr oedd ganddynt siawns gweddol i beidio a chael eu gweld yn dod yn ôl.
Daethant yn ôl i'r lagŵn, ac yna i fyny â hwy i gyfeiriad y lanfa, gan gadw gwyliadwriaeth fanwl ar y glannau. Roedd Bob wedi llunio esgus gwan dros eu hailymweliad pe digwyddai iddynt gael eu dal,—sef, mai eu neges oedd ceisio help tri neu bedwar o ddynion i fynd â'r llong i Awstralia. Gwyddai mai esgus gwael iawn ydoedd, a gwaeth na hynny, dibynnai ar iddo gael hyd i Miss Sharpe i roi'r esgus drosto i Shimu. Ond gwyddai mai'r tebyg, os delid hwynt, ydoedd y lleddid hwynt cyn iddynt gael cyfle i weld Miss Sharpe. Modd bynnag, rhywbeth oedd yr esgus os âi i'r pen arnynt. Hyderai na ddelid mohonynt, ac y llwyddent yn eu hamcan.
Daethant i'r lanfa yn ddiogel, a glaniasant. Yr oedd awr neu ragor rhyngddi a machlud haul—rhaid oedd iddynt ddod yno cyn y nos, neu ni allent gael hyd i'r lle. Hyd yma yr oedd popeth wedi bod o'u tu. Hyd y gwyddent, nid oedd neb wedi eu gweld. Ond, yn awr, yr oedd gwaith anodd o'u blaen,—sef aros a disgwyl.
'Cofia, Wil, dydw i ddim am fynd yn ôl hebddi," ebr Bob yn ddifrifol.
"Siwr iawn," ebr Wil. "rydw i'n ddigon bodlon." "Os na ddaw hi yma, mi fydd yn rhaid i ni fynd i fyny i'r pentref," ebr Bob.
Mi wyddom ymha fwthyn y mae'n byw," ebr Wil, "ac ni fydd neb yn gwylio heno."
"Ond mi fydd yn dywyll, cofia di," ebr Bob. "Ac