(efe oedd ar y dec ar y pryd), fod y llong yn cael ei chyfeirio at ynys drachefn, ac yr oedd rhywbeth yn adnabyddus iddo yn ffurf yr ynys, fel y barnai. Ac yna cofiodd mai dyma'r ynys yr aethai Capten Larkin a'r tri dyn,—Smith, White, a Walker,—iddi ers llawer dydd. Chwarae teg i Miss Sharpe,—yr oedd yn cofio amdanynt, ac am eu hachub o'u caethiwed unig, a'u dwyn adref. Angorwyd y llestr y tuallan i'r ynys, ac aeth Bob a Dic yn un o gychod y llong i'r lan. Tybid ar y dechrau y byddai'r dynion ar y lan yn gwylio'r llong yn cyrraedd. Ond nid oeddynt yno, ac felly glaniodd y ddau. Aethant i mewn i'r ynys i chwilio amdanynt, a thybiodd Bob cyn hir, gan na welai unrhyw arwydd o honynt, eu bod wedi eu hachub eisoes gan ryw long arall. Yr oeddynt ar fedr rhoi gorau i'r ymchwil a throi'n ôl, pan sylwodd Dic ar golofn o fwg yn esgyn o bantle ar y chwith iddynt.
"Edrychwch," meddai'n gyffrous, "dacw nhw."
Ac ymaith a'r ddau nerth eu traed i'r cyfeiriad. Ac wedi dyfod yno, dyna lle'r oedd bwthyn bach, clyd, dan gysgod craig, a Smith yn sefyll wrth ddrws y bwthyn. Trodd i edrych yn syn ar y ddau ymwelydd ac yna galwodd ar ei ddau gydymaith. Daethant hwythau allan o'r bwthyn, â syndod, a mesur o elyniaeth ar y cyntaf, ar eu hwynebau. Ond wedi i Bob yn frysiog hysbysu eu neges yno, daeth gwên i eistedd yn y lle y buasai gwg yn flaenorol, a gwahoddwyd y ddau ymwelydd i'r bwthyn. Y peth cyntaf y sylwodd Dic arno oedd yr arogl hyfryd a lanwai ei ffroenau, ac edrychodd i gyfeiriad y tân oedd y naill tu i'r bwthyn.