"Wedi marw fy mam, pan oeddwn i yn ddeuddeg oed, cymerodd fy nhad fi ato i fyw i'r ynys, ac yn fuan, gan fy mod yn eneth iach, gref, dechreuodd fynd a mi gydag ef ar ei deithiau, ac un neu ddau o'r brodorion yn griw gyda ni. Dysgais bopeth am long ar y teithiau hynny. Perchid fy nhad a minnau'n fawr gan drigolion Mantu. Credent fod lwc iddynt o'n cael i fyw ar yr ynys. Roedd fy nhad yn gallu gwneud ffisig oedd yn gwella ryw anhwyl a gaent yn achlysurol, a dyna'r prif reswm eu bod mor barchus o honom. Deuent â pherlau i ni yn barhaus,—caent hwy o gregyn yn y môr, fel y gwyddoch. Ni wyddent hwy eu gwerth, ond gwyddem ni eu bod yn dra gwerthfawr.
"Wel, un tro, roeddym ar fordaith i Port Moresby, a chennym nifer da o berlau gyda ni i'w cyfnewid yno am nwyddau. Torrodd yn storm fawr arnom. Daliodd yr hen long yn dda drwy'r storm, ond golchwyd y ddau frodor oddi ar y bwrdd. Wedi i'r storm fynd heibio, gwelsom fod y llong yn gollwng dwfr, ac yn debyg o suddo'n fuan. Ni allem ni ei chadw ar yr wyneb. Felly, gan fod y môr yn weddol dawel, nid oedd dim i ni ei wneud ond mynd i'r cwch, a disgwyl cael ein codi gan rywun. Ychydig o ymborth a dŵr oedd gennym, ond yn ffodus cofiasom am y perlau. Yr ail ddiwrnod ar ôl i ni adael y llong, codwyd ni gan long oedd yn hwylio i Brydain. Ein bwriad oedd gofyn iddynt ein glanio, fel y gallem ddychwelyd i'n hynys. Ond fe gymerwyd fy nhad yn wael iawn ar fwrdd y llong, ac am rai dyddiau, ofnwyd y byddai farw yn y dwymyn. Am y rheswm hwnnw, ni ofynnais