iddynt ein glanio. Os oeddwn i golli fy nhad, gwell oedd gennyf fynd i Brydain, gan fod gennyf berthnasau yno. Yn ffodus, adferwyd fy nhad yn raddol, a glaniwyd ni ym Mhrydain. Aethom i aros at ein teulu yn Lerpwl. Yno, hoff gyrchfan fy nhad oedd cymdogaeth y dociau. Ac yno, daeth i gydnabyddiaeth â Larkin ac Allen, a phob yn dipyn, adroddodd hanes ei drysor wrthynt, a dangosodd iddynt rai o'r perlau. Ceisiais ei rybuddio yn eu herbyn, ond yn ofer. Mynnai eu bod yn ddau gyfaill pur iddo, ac, yn anffodus, dywedodd ormod wrthynt,—yn wir, dywedodd y cyfan wrthynt am yr ynys, gan wneud map iddynt o'r ynys, a dangos ymhle'r oedd y bwthyn arni. Fel y dywedais, roeddwn i'n drwgdybio'r ddau o'r cychwyn, ond mynnai fy nhad ymddiried ynddynt. A chyn hir, cododd awydd cryf ynddo i fynd yn ôl i'r ynys gyda'r ddau ddyn. Ceisiais ei berswadio i beidio a mynd, trwy ddweud na ddaliai ei iechyd mo'r daith. Ond ni fynnai wrando arnaf. Cyn hir, deallais fod y tri wedi pwrcasu llong i hwylio i'r ynys i geisio'r trysor. Gydag arian fy nhad y pwrcaswyd y llong. Gall rhai o honoch ofyn, O ble y cafodd fy nhad arian i'w phrynu? Wel, cawsom arian da am y perlau, a chyda rhan o'r rhai hynny, y prynwyd y 'Mona'. Ac yna, newydd iddo brynu'r llong, a phan oeddynt ynghanol eu paratoadau i hwylio, bu fy nhad farw. Roeddwn yn benderfynol o wneud fy ngorau i rwystro'r ddau rhag cael ein trysor,—neu'n hytrach, fy nhrysor i bellach, wedi i'm tad farw.
"Yn ffodus i mi, roedd gennyf gyfaill yn cadw gwyliadwriaeth fanwl ar Larkin ac Allen, ac yn gwylio'u