Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Mêt y Mona.djvu/160

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

holl symudiadau. Trwyddo ef y deuthum i wybod pan oeddynt yn paratoi i hwylio. Ni wyddwn beth i'w wneud. Yn sydyn, daeth y syniad beiddgar i fy meddwl i hwylio gyda hwynt, o bai modd. Ymwisgais fel dyn, ac fel y gwelwch, nid oedd yn anodd i mi guddio fy rhyw, gan fod gennyf gyfansoddiad cadarn. Euthum i lawr at y dociau, a deuthum ar eu traws. Cynhigiais fy ngwasanaeth iddynt, ac, fel y gwyddoch, cymerwyd fi'n fêt ar y llong. A dyna'r hanes i chwi. Wrth gwrs, bu'n rhaid i mi fod yn ofalus iawn rhag fy mradychu fy hun iddynt, yn enwedig pan sonient am y trysor yn fy nghlyw. Ond anaml iawn y gwnaent hynny, a gwyddoch gystal â minnau fel y llwyddais i'w twyllo i'r diwedd.'

Tra bu Miss Sharpe yn adrodd yr hanes, yr oedd pob llygad wedi ei hoelio arni, a pha ryfedd? Nid yn unig yr oedd ei stori'n neilltuol o ddiddorol, ond yr oedd ei dull naturiol, byw, hithau o'i hadrodd yn sicrhau sylw pawb. Ac yr oedd tinc gwirionedd a gonestrwydd ymhob gair o'i stori.

"Three cheers i Miss Sharpe," gwaeddodd Cooke, gan chwifio'i freichiau. Safodd pawb ar eu traed, ac unodd pawb o galon i roi banllef o gymeradwyaeth i'r arwres.

"Diolch yn fawr i chwi," ebr hithau. "Rwyf wedi llwyddo yn fy neges, ond ni allaswn fod wedi gwneud hynny heb eich help chwi. Ac yn awr rwy'n disgwyl fy mod wedi bodloni pawb o honoch fod gennyf hawl i'r trysor. Neu a oes gan un o honoch rywbeth i'w ofyn i mi?"