Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Mêt y Mona.djvu/162

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XXIII
AWSTRALIA A CHARTREF

CYRHAEDDWYD i borthladd Fremantle, ar yr afon Alarch, yng Ngorllewinbarth Awstralia yn ddiogel heb ragor o helyntion, a mawr y diddordeb a gymerai'r bechgyn o Drelan yn y golygfeydd dieithr. Clywsent lawer am Awstralia yn yr ysgol gartref, ond ni freuddwydient, pan ddysgent am y cyfandir pell, y byddent yno mor fuan. Mis Ebrill, a dechrau gaeaf ydoedd yno pan gyrhaeddasant.

Ymhen ychydig ddyddiau, yr oedd Miss Sharpe wedi trefnu popeth i'w bodlonrwydd ei hun. Gwerthodd y llong am bris bychan i'r cynhigydd cyntaf, aeth â'i thrysor i'r banc, a thalodd gyfran anrhydeddus, yn ychwanegol at eu cyflogau, i bawb o'r dwylo. Penderfynodd Bob a Wil a Dic fynd adref gyda Miss Sharpe ar y mailboat cyntaf, ond am aros yn Awstralia yr oedd y gweddill o'r criw, am ysbaid, o'r hyn lleiaf.

Bu'n rhaid iddynt aros am wythnos cyn i'r mailboat gyrraedd. Yna teg oedd edrych tuag adre. Dylid dywedyd na werthwyd mo'r cwch modur gyda'r llong. Yr oedd rhyw ymlyniad rhyfedd yn Wil at y cwch, a dymuniad ei galon oedd cael mynd ag ef yn ôl i'w ewythr Huw, o bai modd, sut yn y byd. Crybwyllodd ei ddymuniad wrth Miss Sharpe, ac atebodd hithau gyda gwên siriol, "Rhaid i ni fynd