Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Mêt y Mona.djvu/167

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

meddai yn floesg, "Wil—a—Dic. O ble—o ble y deuthoch chi?" Erbyn hyn, yr oedd eraill o'r gweithwyr wedi sylwi ar y bechgyn, ac ni fu erioed y fath syndod a llawenydd. Yr oedd y peiriant, a dynnai'r wageni o droed y chwarel ar y cei, a phan ddeallwyd pwy oedd yn y cwch, dechreuwyd canu corn hwnnw. Deallodd rhai o griw y llong beth oedd wedi digwydd, ac unodd ei chorn hithau yn y cydgan byddarol. Clywyd y sŵn yn y pentref draw, a methid a deall beth oedd y mater, a rhedodd llawer i lawr at lan y môr i holi beth oedd yn bod.

Ond cyn i neb o'r pentref gyrraedd, yr oedd y bechgyn wedi llywio'r Wennol' i'w hen angorfa, ac yn ceisio sicrhau cwch Huw Elis yn ei hen le. Daeth rhai o'r gweithwyr atynt, ac ni fu erioed y fath ysgwyd llaw. Do, do, fe fu mwy o ysgwyd llaw pan ddaeth rhai yno o'r pentref, er na allent gredu eu golygon pan welsant y bechgyn gyntaf. Edrychent ar Wil a Dic fel pe baent wedi codi oddiwrth y meirw. Ond rhaid oedd iddynt gredu tystiolaeth eu llygaid. Y bechgyn colledig oeddynt,—yn ddios,—mor fyw ag erioed. Bu ysgwyd llaw a holi, ond nid oedd y bechgyn am ddweud dim o'u hanes yr adeg honno. "Mi gewch yr hanes i gyd eto," ebr Wil. "Mae arnaf eisiau mynd adre i weld mam a f'ewyrth Huw yn awr."

Ond ataliwyd hwy,—bernid mai torri'r newydd da yn raddol i'r ddwy fam a fyddai orau, rhag ofn y byddai gweled y bechgyn, heb eu paratoi gogyfer a hynny, yn ormod o ergyd iddynt allu ei dal. Ac yn awr, deallodd y bechgyn na ddaethai'r botel a'r llythyr oedd yn amgaeedig ynddi i afael neb yn Nhrelan.