PENNOD II
PRYDER
DAWNSIAI'R 'Wennol' yn ysgafn ar y tonnau, a'r ddau fachgen yn eistedd ynddo, heb ganddynt ddim i'w ddweud y naill wrth y llall. Draw, tua dwy filltir oddiwrthynt, fel y barnent, gwelent yr oleulong: a thudraw iddi, ymhell y tudraw, gwelent amlinelliad aneglur mynydd y gwaith. Ond, er edrych i bob cyfeiriad, dros wyneb y môr, ni welent arwydd llong na chwch yn unman, oddigerth yr oleulong. Gwelent fwg draw ymhell yn y môr, a ddywedai wrthynt fod agerlongau'n hwylio'r ffordd honno.
"Fasa'n well i ni drio tynnu sylw pobl y lightship?" gofynnodd Wil.
"Ni fyddwn ni ddim gwaeth a threio," ebr Dic, "er nad ydw i ddim yn meddwl bod yn bosib iddyn nhw'n gweld ni."
Cododd y ddau ar eu traed, a chwifio eu cadachau, ond yn ofer. Gwyddai'r ddau eu bod yn rhy bell i gael eu gweld: ac felly rhyw ymdrech hanerog a wnaethant, a rhoisant y gorau iddi'n fuan, i eistedd i lawr yn fwy trist nag erioed. Gwelent yr haul yn tynnu'n brysur tua gorwel y gorllewin,—yn disgyn yn nes, yn nes o hyd i wyneb y môr,—i suddo'n fuan, fel y gwyddent, o'u golwg. Gwyddent fod y nos yn