agoshau,—nos ddieithr iawn, nos lawn o beryglon iddynt hwy; ond ni ddymunent fynegi eu teimladau i'w gilydd,—ni fynnai'r un o honynt i'r llall feddwl ei fod yn ofni.
Ac yna, sefydlodd y ddau eu llygaid ar yr haul yn mynd i lawr mewn cwmwl tân i'r môr. Ond nid am ogoniant yr olygfa y meddylient,—nid brenin gwyn-ddydd yn ei waed yn cwympo i lawr a welent, yn gymaint a machlud eu gobeithion am gael dychwelyd adref, nac yn wir, am gael eu hachub o gwbl. Yr oedd eu cyflwr yn rhy ddifrifol iddynt allu gweld barddoniaeth yr olygfa. Ac yna, wedi machlud haul, cryfhaodd yr awel, a chododd y tonnau ryw gymaint. Ond nid yn ddigon i beri iddynt ofni am ddiogelwch y cwch,—roeddynt wedi arfer a bod allan mewn cwch ar fôr tonnog, fel nad ofnent y tonnau.
"Mae arna i eisiau bwyd, fachgen," ebr Wil cyn hir, i dorri ar y distawrwydd llethol.
"Mae arna innau hefyd," ebr Dic. "Ac eisiau cysgu. Beth wnawn ni, dywed?"
"Wnawn ni ddim heno bellach," ebr Wil, "ond disgwyl am rywbeth at yfory."
"Biti i ni gychwyn allan,ebr Dic." "Arnat ti roedd y bai, Wil."
"Ol reit," ebr Wil. "Mi gymra i'r bai. Ond faint gwell ydym ni o sôn am hynny rwan yn y fan hyn? Rhaid i ni feddwl am ryw gynllun i gael i'r lan yfory." Ond pa gynllun? Druan o Wil, ni wyddai.
"Mi gei di gysgu am dipyn rwan, Dic," meddai'n garedig, "ac mi wylia innau. Yna mi newidiwn ni. Felly y byddan nhw ar y môr, wyddost ti."