Ond faint gwell fyddi di o wylio?" oedd cwestiwn Dic.
"Wel, os daw rhywbeth yn agos atom ni, mi waeddaf a nerth esgyrn fy mhen," atebodd Wil yn siriol.
Ac, yn fuan, er trymed ei galon, yr oedd Dic druan yn gorffwys yn dawel ym mreichiau cwsg, a Wil yn ceisio gwylio. Yr oedd y sêr erbyn hyn yn y nen, a fflachiadau rhai o oleuadau glannau Môn i'w gweld yn goleuo'r ffurfafen. Gwelai Wil hefyd oleu yr oleulong, ond ni ddaeth yr un llong arall yn agos atynt.
Ond yr oedd y distawrwydd a'r unigedd, wedi i Dic gysgu, yn llethol.
A chyn hir, dechreuodd Wil flino ar sŵn y tonnau'n cusanu'r cwch, a'i lygaid drymhau gan gwsg. Ymladdodd yn erbyn y cysgadrwydd a fynnai ei orchfygu, ond yn ofer: ac, yn fuan, nid oedd neb i wylio'r cwch. Cysgai'r ddau fachgen blinedig yn dawel ac yn drwm, wedi anghofio eu holl beryglon.
Gadwn iddynt gysgu, a dychwelwn i gael gweld sut y bu yn Nhrelan y noson honno. Aeth rhai oriau heibio cyn i neb ddarganfod bod y bechgyn ar goll. Daeth rhai dynion i lan y môr, fel arfer, ac aethant allan gyda'r cychod i bysgota yn y bae. Ond ni ddaeth Huw Elis i lawr y noson honno,—nid oedd yn noson dda, yn ei farn ef, i bysgota, ac, felly, aeth i weithio i'w ardd. Ac ni ddaeth i'w feddwl yr ymyrrai neb a'r 'Wennol'. Tuag wyth o'r gloch, y pasiai Tom Huws, un o fynychwyr glan y môr, heibio'r Morfa ar ei ffordd adref, a gwelodd Huw Elis yn eistedd ar fainc yn ffrynt y tŷ, yn mwynhau mygyn ar ôl ei lafur yn yr ardd.