Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Mêt y Mona.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bod yn symud ryw gymaint, a daliasant ati am gryn amser yn y gobaith o gyrraedd diogelwch a chael. ymborth. A bron na ellid dywedyd bod yr ymborth yn bwysicach yn eu golwg na'r diogelwch,—bechgyn iach oeddynt ar eu cythlwng.

"Mi gymrwn ni bum munud," ebr Wil toc, a'r chwys yn rhedeg i lawr ei ruddiau. A chodasant eu pennau, gan godi'r pren o'r dwfr, a pharatoi i eistedd i orffwys, wedi bod wrthi ar eu deulin gyhyd. Ond, wrth droi o honynt i eistedd, gwelsant rywbeth i dynnu eu sylw, ac i beri iddynt anghofio'r rhwyfo a'r lightship, ac hyd yn oed eu newyn. Beth ydoedd? Wel, llong,—yn eu hymyl, o fewn llai na milltir iddynt, mor agos ag y gallent farnu, ac yn dod tuagatynt. Gallasent, yn ddiau, fod wedi ei gweld er ys meityn, onibai eu bod a'u holl sylw ar y rhwyfo. Anodd gwybod, pe bai bwys am hynny, pa un o'r bechgyn a'i gwelodd gyntaf. Mae'n debyg i'r ddau ei gweld ar yr un amrantiad, ond Wil a roes fynegiad gyntaf i'w deimladau.

"Hwre, dyma ni wedi'n hachub, Dic annwyl," gwaeddodd, gan sefyll ar ei draed, a chwifio'i freichiau, wedi anghofio'n llwyr ei chwys a'i ludded.

"O, diolch," llefodd Dic, a thorri i wylo'n hidl.

Safodd y ddau ar eu traed yn y cwch, a'u llygaid yn hoeliedig ar y llestr. Ac, erbyn iddynt graffu ac ystyried, gwelent fod rhywbeth yn anghyffredin yn ymddangosiad y llong,—rhywbeth hollol ddieithr iddynt hwy. Yr oedd yn berffaith dawel ar y pryd,—dim chwythiad o awel, a'r môr yn dawel a llonydd o'u hamgylch. Gwelent fod gan y llong dri mast,