ac nad oedd hwyl o gwbl wedi ei lledu. Ac eto fe symudai yn weddol gyflym tuagatynt. Yr oedd erbyn hyn gryn lawer yn nes atynt nag a fuasai pan welsent hi gyntaf.
"Dyna i ti beth rhyfedd, Dic," ebr Wil. "Llong yn symud a dim un hwyl arni hi."
"Hwyrach mai stemar ydi hi," ebr Dic.
Ond 'does ganddi hi ddim corn," ebr Wil, "a 'does 'cw ddim mwg. A 'does 'na ddim gwynt o gwbl. Beth sydd yn ei gyrru, dywed?"
Ni allai'r ddau fachgen ddeall beth oedd yn peri i'r llong symud.
Yn fuan, yr oedd y llong bron gyferbyn a hwynt, ac fel pe bai am fynd heibio iddynt, o fewn llai na chwarter milltir iddynt, heb i neb ar ei bwrdd eu gweled.
"O'r annwyl," ebr Wil, "mae nhw am ein pasio ni. Dydyn nhw ddim wedi'n gweld ni. Gwaedda, Dic annwyl, am dy fywyd." "Hei! Hei!" A dechreuodd y ddau floeddio a'u holl nerth, a chwifio'u capiau, i geisio tynnu sylw rhywun ar fwrdd y llong. Am rai munudau, bloeddiasant, heb weld arwydd bod neb ar fwrdd y llong wedi eu gweld na'u clywed. Ac roedd eu calonnau'n dechrau curo'n gyflym gan ofn nad achubid mohonynt, a'r llong mor agos atynt, pan welsant y llong yn arafu, a chwch yn cael ei ollwng drosodd o honi.
"O! diolch," ebr Wil. "Wyddost ti beth, mi feddyliais i eu bod nhw am ein pasio ni. Do, wir, fachgen. Ond mae hi'n ol reit rwan."
"I ble mae hi'n mynd, tybed?" gofynnodd Dic. "Nid i Drelan, mae'n debyg."