Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Mêt y Mona.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Nage, siwr," ebr Wil, "neu mi fasa wedi troi i mewn cyn hyn."

"Dydi hi ddim yn edrych yn debyg i long yn cario cerrig chwaith," ebr Dic. "I ble mae hi'n mynd, tybed?"

"Waeth i ti i ble," oedd ateb Wil. "Mi gawn drip reit ddifyr i ti. Hwyrach y rho'n nhw ni i lawr yn Aberdaron, neu ymhellach na hynny. Lle sydd yna wedyn ar lan y môr, dywed?"

Nid oedd Wil yn gryf mewn daearyddiaeth, a rhaid oedd iddo'n aml ddibynnu ar Dic yn yr ysgol, pan fyddai holi ar y pwnc hwnnw o athrawiaeth.

"Aberdyfi ac Aberystwyth," ebr Dic.

'Gora'n y byd po bellaf, on'te, Dic? Mi fydd 'na hwyl yn Nhrelan pan awn ni adre."

Roedd Dic wedi bod yn gwylio'r llong ddieithr yn ystyriol. Ac, yn awr, gofynnodd i Wil, "Wyddost ti beth sy'n gyrru'r llong 'na, Wil?"

"Na wn i, siwr," oedd yr ateb. "A wyddost titha ddim chwaith."

"Dydw i ddim yn siwr," oedd yr ateb. "Ond meddwl rydw i mai petrol sydd ganddyn' nhw,—a hwylia pan fydd gwynt teg, wyddost ti. Rydw i wedi clywed bod 'na longau felly."

"Rydw inna hefyd wedi clywed. Hwyrach y cawn ni betrol ganddyn' nhw i fynd adre felly,—er y basa'n well gen i gael trip."

Yr oedd y cwch o'r llong yn awr yn eu hymyl, a gwelent fod dau ddyn ynddo. Gofynnwyd i'r bechgyn (yn Saesneg) beth oedd y mater arnynt. Ceisiodd Wil egluro orau y gallai,—yr oedd yn well Sais na Dic,