am ei fod wedi clywed ei ewythr Huw yn siarad Saesneg, ac wedi ymarfer mwy na Dic gyda morwyr a ddeuai gyda llongau i gei Trelan i lwytho. Yna taflwyd rhaff iddynt, a thynnwyd hwynt at ochr y llong. Codwyd hwynt i'r bwrdd; ac, wedi eu holi ymhellach am eu helynt, a deall eu bod heb fwyd ers oriau, arweiniwyd hwynt i'r fforcasl (ystafell y criw), a rhoddwyd bwyd iddynt. Wedi bod o honynt gyhyd heb ddim, ymborth oedd eu hangen pennaf, a gwnaethant gyfiawnder â'r arlwy a gawsant.
Wedi iddynt gael eu digoni, daeth gair bod ar y Capten eisiau eu gweld yn y caban. Gwelwodd y ddau pan glywsant hyn, ond nid oedd cyfle iddynt ddweud gair wrth ei gilydd. Felly, aethant dan arweiniad un o'r morwyr i gyfeiriad y caban. Wedi iddynt gyrraedd i'r ystafell honno, teimlent yn bur swil ac ofnus yng ngwyddfod pennaeth y llestr. Dyn tal ydoedd, gyda llygaid treiddgar a gên benderfynol. Sylwodd y bechgyn fod rhywbeth tebyg i wên yn chwarae'n barhaus o gwmpas conglau ei enau, ond nid gwên naturiol ydoedd, fel y barnent. Er mor ofnus y teimlent pan gawsant orchymyn i fynd i'w wyddfod, teimlent yn fwy annifyr o lawer wedi ei weld. Gwyddent ar ei wyneb nad oedd dim trugaredd i'w ddisgwyl ganddo. Eisteddai wrth y bwrdd yn y caban, ac wrth ei ochr, yr oedd dyn arall tua chanol oed,—dyn byr, ac heb fod yn edrych yn debyg i forwr, gyda gwallt wedi dechrau britho, a mwstas wedi ei dorri'n fyr.
Gorchymynodd y Capten iddynt eistedd, ac yna dechreuodd eu holi, ac ysgrifennu eu hatebion ar