bapur. Holodd hwynt am eu henwau a'u cartrefleoedd, pwy oedd biau'r cwch, a sut y daethent i fod ynddo mor bell o dir. Wil a atebai gan mwyaf, a Dic yn cadarnhau pan deimlai y gelwid arno wneud hynny. Wedi cael yr hanes yn llawn ganddynt, gofynnodd y Capten iddynt, "Ac mae'n debyg eich bod yn disgwyl i mi eich glanio?"
"Os gwelwch chi'n dda, syr," ebr Wil yn grynedig. Ychydig iawn o awydd y trip yr edrychasai Wil ymlaen ato oedd arno wedi gweld sut ddyn oedd y Capten.
"Neu roi digon o betrol i ni fynd i'r lan," anturiodd Dic ychwanegu, ar sail ei ddyfaliad mai olew a ddefnyddid i yrru'r llestr.
"Mi anfonwn ni arian i chi am y petrol wedi mynd i'r lan, syr," ychwanegodd Wil, ac wrth weld y wên anghrediniol ar wyneb y Capten, meddai, "Gwnawn, wir, syr." Ond y wên annarllenadwy oedd unig ateb y Capten iddynt ar y pryd. Trodd at y gŵr wrth ei ochr, ac, am rai munudau, bu siarad rhyngddynt, rhy ddistaw i'r bechgyn allu ei ddeall. Yna trodd y Capten atynt, a dywedodd, "Rydych yn edrych yn ddau fachgen cryf ac iach. Oni fuasech yn hoffi bod yn forwyr a dod gyda ni?"
Edrychodd y ddau fachgen ar ei gilydd, mewn syndod a dryswch, ac yna atebodd Wil:
"Mi fasa'n well gennym ni gael mynd adre, os gwelwch chi'n dda, syr."
"Ond wn i ddim sut yr ewch chi adref," meddai'r Capten gyda'i wên sarhaus yn ymledu, "os na nofiwch chi i'r lan. Dydw i ddim yn mynd i wastraffu amser i droi i mewn i'ch glanio."