Prawfddarllenwyd y dudalen hon
gael dangos eich gwaith i chi." Arweiniodd hwynt ymlaen at y galley,—gweithdy'r cŵc ar y llong. Galwodd ar y cŵc ato.
"Thomson," meddai, "dyma i chwi fachgen i'ch helpu, ac i dendio arnom ni yn y caban." A chyflwynodd Wil i ofal y cŵc.
Yna aeth â Dic ymlaen i ben blaen y llong. Yno yr oedd y mêt, a rhai o'r dynion. "Mr. Brown," meddai wrth y mêt, "dyma i chwi fachgen, i chwi wneud morwr o hono. Gwell i chwi ei roi yn eich watch chi. A chwiliwch am ddillad iddo ef a'r llall gael newid."
"Reit, syr," meddai'r mêt.
Trodd y Capten ar ei sawdl, ac aeth yn ôl i'r caban. Dyn ieuanc lluniaidd, a chanddo wynepryd hardd a dymunol oedd y mêt, a theimlodd Dic y gallai ei hoffi ef, ac mai dyn caredig ydoedd,—tra gwahanol i'r Capten.