y Mona chwerw ei ysbryd, wrth gofio am yr hyn a fuasai yn y caban gynau.
"Mae'r mêt yn edrych yn ddyn neis iawn," ebr Dic.
"O! mae Mr. Brown yn well sort o lawer na Chapten Larkin," ebr Bob. "Ond y Capten ydi'r meistr. Gofalwch chi am fod yn ufudd iddo fo. Raid i chi ddim ofni wedyn."
"Pwy ydi'r dyn arall hwnnw sydd yn y caban?" gofynnodd Wil.
"Mr Allen ydi'i enw fo," oedd yr ateb. "Mae nhw'n dweud mai fo biau'r llong, ond wn i ddim ydi hynny'n wir."
"Beth ydi enw'r llong?" gofynnodd Wil. "Mi fydd yn rhaid i ni roi hwnnw yn y llythyr, neu ni fydd mam ddim haws."
"Ymhle mae dy lygaid di, fachgen?" gofynnodd Bob. "Wyt ti ddim wedi ei weld o, 'Mona,' ar y cychod."
Gwridodd Wil dan y cerydd, a bu'n ddistaw am ennyd.
Beth sydd yn gyrru'r llong heblaw gwynt?" gofynnodd Dic.
"Petrol. Mi fydd yn handi iawn pan na fydd awel, neu pan fydd yr awel yn groes." ebr Bob. "A rwan, rhaid i mi fynd. Rydw i'n disgwyl y byddwn ni'n ffrindia. Cofiwch, does dim eisio i chi fynd i drwbl, ond, os ewch chi, dowch chi i ddweud wrtha i."
Diolchodd y bechgyn iddo, ac yna aethant i ysgrifennu llythyr a'i ddodi yn y botel. Daeth Bob a photel iddynt, ac wedi cau'r llythyr yn dynn ynddi,