taflasant hi dros y bwrdd, gan obeithio y cerid hi gan y tonnau caredig i afael rhywun a anfonai'r llythyr i Drelan, i leihau pryder eu hanwyliaid yno yn eu cylch.
Cyn y nos, cawsant weled pa fodd a phaham yr ofnai pawb y Capten. Wedi iddynt daflu'r llythyr i'r môr, safai'r bechgyn ar y dec, a nifer o'r dwylo yn sefyll yn agos atynt yn ymddiddan. Daeth y Capten i fyny o'r caban Y munud y gwelsant ef, gwasgarodd y dynion, gan geisio ffeindio rhywbeth i'w wneud, rhag iddo sylwi arnynt yn segur. Cerddodd yn awdurdodol ei drem a'i osodiad ar hyd y dec, gan droi ei lygaid i bob congl, fel pe bai'n chwilio am feiau. Yna cododd ei ben i fyny i edrych ar yr hwyliau. Tynnodd rhywbeth ei sylw ynglŷn ag un o'r hwyliau. Safodd a galwodd ar Bob ato,—ef oedd yr agosaf ato. Fflachiai ei lygaid, a chyda rheg arswydus, gorchmynodd Bob i fynd i fyny i gywiro'r diffyg, gan ychwanegu geiriau angharedig am y mêt, yr hwn a dybiai oedd i'w feio am y diffyg. Brysiodd Bob i ufuddhau iddo heb golli amser.
Daeth y mêt ymlaen at y Capten, ac yntau'n gwylio Bob ar yr hwylbren.
Trodd y Capten ato'n ffyrnig, ond heb regi.
"Nawr, Mr. Brown," meddai'n llym, "rhaid i chwi fod yn feistr ar y dynion. Ni thâl bod yn rhy garedig wrthynt, neu ni wnânt ddim byd yn iawn. Nid fel yna y mae ffyrlio top-sail."
Edrychodd y mêt i fyny. "Beth oedd y mater arni, syr?" gofynnodd.
"I lygad morwr yr oedd y gwaith wedi ei wneud