Prawfddarllenwyd y dudalen hon
yn fler, a rhaid i mi gael popeth yn iawn ar fwrdd fy llong i. Gofelwch o hyn allan." Ac ymaith ag ef.
Sylwodd y bechgyn fod y mêt yn sefyll yn ddigryn o'i flaen, ac na regai'r Capten mohono. Felly barnai'r bechgyn nad oedd y mêt yn ei ofni, beth bynnag am y dynion.
Daeth yn fuan yn amser noswylio, ac am y noson honno, cafodd y bechgyn fynd i'w gwelyau yn y fforcasl, ac ni bu raid i Ddic fynd allan gyda'i wyliadwriaeth. Ond buont yn gorwedd ill dau am oriau heb allu cysgu. Nid gwiw oedd iddynt siarad yn uchel, gan y cysgai rhai dynion yn eu hymyl. Ond yn troi gyda digwyddiadau cynhyrfus y dydd y bu eu meddwl hyd nes i gwsg o'r diwedd eu gorchfygu.