Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Mêt y Mona.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arno yn prysur wneud ei fywyd yn anioddefol iddo, ac os gwnai'r cynllun hwn les, roedd yn werth rhoi praw Hyd yn oed pe methai, ni chredai Wil y gallai fod yn waeth arno.

Bore trannoeth, roedd Wil yn y galley yn golchi tatws at ginio. Daeth Thomson i mewn, a gwelai Wil ar ei wyneb ei fod mewn tymer ddrwg,—gwaeth nag arfer.

"Golcha nhw'n lân," meddai'n sarrug wrth Wil. "Rydw i'n gwneud," ebr Wil, a thinc penderfyniad newydd yn ei lais, a'i synnai ei hun, fel mai prin yr adwaenai ei lais.

Edrychodd Thomson arno yn guchiog,—tybiodd Wil ei fod wedi sylwi ar y dinc newydd yn ei lais, ac aeth ias o'r hen ofn drwy ei gorff. Ond am funud yn unig, y meddiannwyd ef gan yr hen ofn. Gwyddai fod llygaid y cŵc arno, ac aeth ymlaen gyda'i waith. "Paid a cholli dŵr hyd y llawr," ebr Thomson ar ôl ennyd o wylio Wil.

Gŵyr pawb nad hawdd golchi tatws mewn bwced ar fwrdd llong fo'n ysgwyd ar y tonnau, heb golli ryw gymaint o ddŵr hyd y llawr.

"Dydw i ddim yn trio colli dŵr," ebr Wil, gan edrych i wyneb Thomson.

Peth newydd yn hanes y galley oedd i Wil ateb y cŵc fel hyn. Fe sylwodd y cŵc yntau ar hyn, ond ni ddeallodd y dylai'r ymddygiad newydd hwn yn Wil beri iddo ef fod yn ofalus sut i ddelio â'r bachgen. Yr oedd ysbryd gormesol y cŵc wedi ei ddallu fel na chredai y meddai Wil ar ysbryd i wrthryfela yn ei erbyn.