Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Mêt y Mona.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond daliai Wil i wasgu.

"O!" llefodd y cŵc. "Rwy'n llosgi. Gad i mi fynd."

Rhyddhaodd Wil ychydig ar ei afael ar wddf Thomson, ond heb ei ollwng yn rhydd.

"Gad i mi fynd," erfyniodd y cŵc. "Cei lonydd gennyf o hyn allan."

"Rwyf am fynnu llonydd," ebr Wil, a'i waed erbyn hyn yn berwi yn ei wythiennau, "ond rwy'n mynd i dalu rhywfaint yn ôl i chi gyntaf am y camdrin a fu arnaf."

Dychrynnodd Thomson, a dechreuodd weiddi "Mwrdwr," fel dyn gwallgof. Tybiodd Wil ei fod wedi dychryn digon arno i gyrraedd ei amcan, a gollyngodd ef yn rhydd. Pan drodd Wil at ddrws y galley, pwy a welai'n sefyll yno ond y Capten a'r wên ansymudol ar ei wyneb. Am funud, ofnodd Wil y byddai'n helynt arno, ond tawelwyd ei ofnau gan eiriau a thôn y Capten:

"Beth sy'n mynd ymlaen yma?" gofynnodd mewn llais addfwynach nag arfer.

"Thomson a minnau'n setlo rhyw gownt bach oedd rhyngom," ebr Wil. Rhyfeddai wedyn ato'i hun yn gallu siarad mewn dull mor ddidaro â'r Capten: ond, ar y pryd, teimlai nad oedd waeth ganddo beth a wnâi, fel y berwai ei waed yn ei gorff. Trodd y Capten ymaith a'r wên anniflan, gyfrin ar ei wyneb. Nid oedd arwydd bod ar y cŵc awydd siarad,—gan gywilydd ynteu beth. Gadawodd Wil iddo nes y deuai ato'i hun, ond penderfynodd y byddai iddo o hynny ymlaen gadw golwg arno, rhag ofn iddo gynllunio