Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Mêt y Mona.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ryw ffordd i ymddial arno. Ond ymddangosai Thomson fel pe bai wedi dysgu gwers fawr ei fywyd, ac yn awyddus i fod ar well telerau â Wil. A phan siaradodd, yr oedd ei lais yn fwyn a'i eiriau gryn lawer yn fwy dewisol a chwaethus nag yr arferent fod hyd hynny.

Ni ddeallodd Wil hynny ar y pryd, ond daeth i wybob yn ddiweddarach,—ei fod wedi ei godi ei hun ym marn y Capten trwy ddangos digon o wroldeb i droi ar y cŵc.