gwneud arwydd o'r naill long i'r llall. Methai'r dynion a deall pa angen oedd am ymddygiad o'r fath. Iddynt hwy, dywedai nad oedd y Capten ar berwyl da, a grwgnachent.
Ac yna, un diwrnod, wedi iddynt groesi'r Cyhydedd, yr oedd y mêt a'i dri dyn yn gwylio'r llong, Bob wrth y llyw, a Cooke ar y 'lookout', a Dic gyda'r mêt ar y dec. Yn sydyn, clywyd Cooke yn gweiddi'n gyffrous, "Llong ar dân draw ar y chwith, syr." Cydiodd y mêt yn ei yspien-ddrych, ac i fyny ag ef at Cooke. Gwelodd draw, rai milltiroedd ar y chwith iddynt, long weddol fawr a cholofnau o fwg yn esgyn o honi. Yn ddioed, rhoes Mr. Brown orchymyn i Bob i lywio i'r cyfeiriad i'r amcan o estyn cynhorthwy, o byddai angen. Yr oedd yr awel yn ffafriol i'r 'Mona' deithio i'r cyfeiriad, a symudodd yn gyflym. Heb golli amser, galwodd y mêt ar Ddic i'w helpu i ledu rhagor o liain i'r awel. Pan ddaethpwyd yn ddigon agos i'r llestr anffodus i Mr. Brown allu gweld yn eglur fod ar y dynion ar y llong angen cymorth, gwaeddodd o ben grisiau'r caban i hysbysu'r Capten, a chanodd y gloch i alw pawb i'r dec, fel y gellid cael y cychod allan i fynd i geisio achub bywydau. Yn ddioed, wedi ei alw, daeth y Capten i'r dec fel tarw gwyllt. Pan welodd beth a wneuthid, sef newid cwrs y llong, dechreuodd regi'n arswydus a dawnsio ar y dec yn ei gynddaredd. Llamodd at y llyw, a chan roi hergwd i Bob oddiyno, trodd y llyw i gael y llong yn ôl i'w chwrs, ac i fynd oddiwrth y llong oedd yn llosgi. "Beth ydych yn wneud, syr?" gofynnodd y mêt iddo'n syn.