Wedi awr o bwmpio caled, aeth un i lawr eilwaith, i edrych sut yr oedd y dwfr, a daeth yn ôl gyda'r newydd da mai ychydig gyda dwy droedfedd oedd y dyfnder erbyn hyn.
"Diolch. Rydym yn ennill arno," ebe'r mêt. "Nid ydyw'r twll yn un mawr felly." Ond rhaid oedd dal ati i bwmpio rhag i'r dwfr ail-ennill arnynt, ac nid oedd neb yn anfodlon i ymdaflu i'r gwaith, gan mai cwestiwn o fywyd ydoedd iddynt. Yr oedd Thomson, hyd yn oed, mor barod a neb i gymryd ei le gyda'r pwmp.
Cyn yr hwyr, gwelsant, er llawenydd mawr iddynt, fod gwaethaf y storm drosodd, a bod y gwynt yn gwanhau ryw gymaint. Er hynny, yr oedd y tonnau'n codi o'u cwmpas fel mynyddoedd, ac yn dal i dorri dros y llong, nes ei chladdu weithiau bron o'r golwg. Ac er mai noson annifyr a gawsant ail noson y storm fawr, teimlai pawb yn fwy calonnog yn y gobaith y byddai pethau'n well trannoeth. Ac felly y bu. Fore'r trydydd dydd, cododd yr haul mewn wybren ddigwmwl, ac nid oedd ond awel falmaidd fwyn, er bod y tonnau eto'n dal i ddangos eu cilddannedd. Cafwyd egwyl i gymryd lluniaeth, ac i newid i ddillad sychion, a da oedd gan bawb gael ychydig seibiant ar ôl y llafur caled, hirfaith. Yna, wedi i'r môr dawelu, aed i chwilio am y twll, a llwyddwyd i'w atgyweirio heb lawer o drafferth. Llwyddwyd hefyd i atgyweirio popeth arall ar y bwrdd, ond y darn mast a dorasai,—yn ddigon da i ddal hyd nes y cyrhaeddent i dir.