"Wel, mynd i ryw ynys sydd i'r gogledd o Awstralia y mae hi i chwilio am arian," ebr Wil, gan wenu wrth y syndod a welai yn wyneb Dic.
"Sut y gwyddost ti hynny?" gofynnodd Dic braidd yn anghrediniol.
"Dyna'r fantais o fyw gymaint yn y caban, wyddost ti," ebr Wil yn gellweirus.
"Ydyn nhw'n sôn am hynny yn dy glyw di?" oedd cwestiwn Dic.
"Dim peryg. Ond rydw i wedi digwydd clywed ambell air,—digon i ddeall beth sy'n mynd ymlaen."
"Cymer ofal, ngwas i," oedd cyngor Dic.
"Cofia di am y Capten."
"O rydw i ar delerau reit dda hefo fo, byth er pan wnes i feistr ar Thomson."
Mi gei di weld sut y bydd arnat ti tasa fo'n dy ddal di'n gwrando. Cymer ofal."
"O, mi gymer y boi yma ddigon o ofal, ngwas i. Raid i ti ddim ofni. Ond, cofia, cadw hyn i ti dy hun."
Addawodd Dic y gwnâi, a rhybuddiodd Wil unwaith yn rhagor.
"Mi fydda i'n ol reit iti. Ac os clywa i rywbeth eto, mi gei wybod gen i," ebr Wil, ac ar hynny ymadawsant.
Ond, er i Wil deimlo mor hyderus wrth Dic, y byddai iddo'i gadw'i hun o berygl, daeth i brofedigaeth yr un diwrnod. Roedd yn mynd i'r caban ar neges yn hwyr y prynhawn. Wedi dechrau cael blas ar wrando yr hyn a allai glywed, yr hyn na fwriedid iddo ei glywed, gwyliai ar bob cyfle i fodloni ei gywreinrwydd,