Am y rheswm hwnnw, roedd ers dyddiau bellach yn mynd at y caban mor ddistaw ag y gallai, a gwrando, o byddai cyfle oddiar y grisiau. Ac felly'r prynhawn hwn. Gwyddai fod y Capten a Mr. Allen i lawr yn y caban. Safodd ar y gris uchaf i glustfeinio; oedd, yr oedd siarad yn mynd ymlaen yn y caban. Plygodd ymlaen, heb symud ei draed, i glywed yn well, a llwyddodd. Mr. Allen a'r Capten oedd yno,—sylwasai na siaradent un amser am y trysor yng nghlyw Mr. Brown, ac am yr ynys a'r trysor y siaradent y prynhawn hwn. Oddiwrth yr hyn a glywai, barnai Wil fod ganddynt chart o'r ynys ar y bwrdd o'u blaen. "Dylem fod yno o hyn i ben yr wythnos," clywodd y Capten yn ddweud.
"Mae gofyn i ni ddechrau paratoi gogyfer a glanio felly," ebr Allen.
"Mae popeth yn barod, hyd y gwn i. Chwi gofiwch mai hynny oedd gennyf yn fy meddwl wrth wrthod glanio'r bechgyn," ebr Larkin.
"Gorau i ni po leiaf"
Pan oedd yn dweud hyn, a Wil wedi anghofio popeth yn ei awydd i glywed, clywodd lais y mêt wrth ei ben ger drws y caban.
"Ac yn y fan hyn rwyt ti, Wil, a Thomson yn chwilio am darat."
Yr un eiliad, rhuthrodd y Capten a Mr. Allen at y grisiau, ac yr oedd Wil druan yn eu crafangau ar lawr y caban.
"Wedi bod yn gwrando arnom rwyt ti, ai e?" ebe'r Capten, wedi ei lwyr anghofio'i hun yn ei gynddaredd, a gwasgu gwddf Wil a'i law gref.