Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Mêt y Mona.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni allai Wil ateb pe dymunai, gan fel y gwesgid ef,—dim ond syllu'n fud i wyneb y Capten.

"Beth wnawn ni iddo, Allen?" gofynnodd y Capten. "Faint glywodd o, tybed?" gofynnodd Allen.

"Does dim modd i ni gael gwybod hynny, mae'n debyg," ebr Larkin.

"Newydd ddod yna roedd o," ebr Mr. Brown. Edrychodd y Capten arno,—ni chofiasai hyd hynny fod y mêt yno.

"Sut y gwyddoch chi hynny?" gofynnodd iddo, a sefydlu dau lygad ffyrnig arno. Ond ni allai ddychryn y mêt,—safai yn ddigryn o'i flaen.

Am fy mod wedi ei weld ar y dec ychydig funudau cyn hynny," oedd ateb tawel Mr. Brown.

Llaciodd y Capten ei afael ar wddf Wil, ac yr oedd y bachgen yn falch o'r gollyngdod rhannol, oblegid gydag anhawster y gallai anadlu.

"Dywed, beth a glywaist ti?" gorchmynnodd y Capten mewn tôn arw.

"Dim—ond—eich bod chi'n—mynd—i ryw—ynys," ebr Wil.

"Wel, gwrando," ebe'r Capten, a sefydlu ei lygaid arno, "beth bynnag a glywaist ti, cadw ef i ti dy hun. Rwyf am ddweud wrth y dynion yn f'amser fy hun, ac nid ydynt i gael gwybod cyn hynny. Wyt ti'n deall?"

"Ydw, syr," ebr Wil yn grynedig, yn sylweddoli ei fod wedi cael diangfa gyfyng.

"Rwyt wedi fy mhlesio'n dda hyd yn hyn, a dyna pam y cefaist drugaredd gennyf," ebe'r Capten. "Ond, cofia, os ffeindia i fod rhywun ar fwrdd y llong