Ni wyddai Wil p'un ai balch ynteu trist ydoedd o'r newydd ei fod i lanio ar yr ynys gyda'r Capten. Ar un olwg, yr oedd yr ysbryd antur a'i meddiannai i'r fath raddau, yn codi ynddo awydd am lanio mewn ynys ddieithr, a'i gywreinrwydd o berthynas i'r trysor hefyd yn ei gymell i'r lan. O'r tu arall, nid oedd yn dda ganddo mo'r Capten. Er bod y Capten wedi dangos mwy o hoffter ato ef nag at neb arall o'r criw, ni allai un amser deimlo'n gysurus yn ei wyddfod, ac ofnai hefyd ryw ddial ganddo am ei drosedd yn ei erbyn ar risiau'r caban. Beth bynnag am hynny, rhaid oedd ufuddhau.
Synnodd Wil fwy nag erioed pan glybu'r Capten yn gorchymyn i'r tri morwr,—White, Smith a Walker, baratoi i fynd i'r cwch hefyd. Paham, tybed, y dewisai'r tri hyn? Ymhle'r oedd Mr. Allen? Os ceisio'r trysor oedd y neges, oni fyddai Mr. Allen, yn sicr, yn un o'r rhai i lanio? Dyna'r cwestiynau oedd yn ymgynig i feddwl Wil yn yr ychydig funudau o hamdden a gafodd cyn cychwyn. Wrth gwrs, gwyddai mai ofer oedd iddo eu gofyn, gan na allai eu hateb i'w fodlonrwydd ei hun.
Aeth y pump i'r cwch, ac ymaith â hwy am y bwlch yn y reef cwrel a amgylchai'r ynys, a thrwy'r bwlch i'r lagŵn tawel. Er mwyn darllenwyr ieuainc, gellir egluro mai pryfaid bychain sydd wedi adeiladu'r creigiau cwrel yn y môr. Dyna sylfaen yr ynys gwrel, ac o amgylch pob un, y mae reef, neu graig gwrel, yn ymestyn fel amddiffynfa iddi. Tufewn i'r mur hwn, y mae'r dwfr,—y lagŵn,—fel llyn, a'r dwfr yn dawel a chlir. Gyferbyn â cheg afon, bydd