Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Mêt y Mona.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Synnwyd pawb gan y newydd hwn. Ie'n sicr, dau yn unig oedd yn y cwch, ac yn fuan, gwelsant mai Capten Larkin a Wil oeddynt. I ble'r aethai'r tri morwr?

"Mae'r Capten wedi bod wrth ei driciau unwaith eto, marcia di ngair i," ebr Bob yn ddistaw wrth Dic.

"Beth ydych chi'n feddwl?" gofynnodd Dic.

Ond cyn i Bob gael cyfle i ateb, roedd y cwch wrth ochr y llong, a'r Capten a Wil yn dyfod i'r dec. Wedi codi'r cwch i fyny, rhoddodd y Capten, yn hollol ddidaro, orchymyn i osod yr hwyliau, heb ddweud dim am y dynion na ddychwelasai. Y noson honno, cafodd Wil gyfle i ddod at Dic i ddweud yr hanes wrtho. Aethant i gongl neilltuedig ymhen blaen y llong, rhag i neb eu gweld na'u clywed.

"Dyn ofnadwy ydi'r Capten yna, fachgen," ebr Wil mewn ffordd o ragymadrodd.

"Beth wnaeth o iddyn nhw?" gofynnodd Dic yn awchus am y wybodaeth.

"Wel, dyma'r hanes yn fyr i ti," ebr Wil. "Mae'n debyg y bydd o'n dweud ei hun wrth bawb o honoch chi fory, os dywed o'r gwir. Wedi i ni fynd ymhell i fyny'r lagŵn—”

Roeddym ni'n methu a deall pam na basach chi'n glanio gyferbyn â ni," ebr Dic.

"Wn i ddim," ebr Wil, "os nad oedd arno eisio mynd o'ch golwg chi, ac hefyd eisio gweld mwy o'r ynys cyn glanio. Beth bynnag i ti, wedi i ni fynd yn bur bell, dyma fo'n troi'r cwch at y lan, ac i'r ynys â ni i gyd. Nid oedd o ddim wedi dweud gair wrth neb