Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Mêt y Mona.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar ei waethaf. Er na fuasai un amser yn ryw orhoff o'r tri, ni allai lai na theimlo i'r byw drostynt yn eu cyflwr truenus ar yr ynys unig.

"Beth wyt ti'n feddwl ddaw o honyn nhw, Wil?" gofynnodd yn ddifrifol.

"Fedr neb ddweud," oedd ateb Wil.

"Hwyrach y byddan nhw yno am flynyddoedd, ac feallai y daw llong heibio iddyn nhw reit fuan. Ond dydw i ddim yn meddwl bod hynny'n debyg, chwaith."

"Na finnau," ebr Dic yn bendant; "ychydig o longau sy'n dod y ffordd hyn."