Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Mêt y Mona.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MÊT Y MONA

PENNOD I
GLAN Y MÔR

NAWN dydd Iau, yr ugeinfed o Orffennaf ydoedd yn y flwyddyn 192-,—nawn tesog, hafaidd, a'r plant yn Ysgol Trelan yn syllu'n hiraethlon trwy'r ffenestri bob tro y caent gyfle, ac yn cenfigennu wrth bawb oedd yn cael mwynhau awyr agored a rhyddid. Cai'r cloc oedd ar fur yr ystafell hefyd gryn lawer o sylw'r plant hynaf. Credent fod ei fysedd yn symud dros ei wyneb yn arafach nag arfer y prynhawn hwnnw, yn union fel pe bai'r tywydd poeth yn eu gwneud yn ddiog. O'r diwedd, gwelwyd hwynt yn pwyntio at bedwar o'r gloch,—yr awr ddisgwyliedig,—a rhyddhawyd y carcharorion. Trannoeth, byddai'r ysgol yn cau am wyliau'r haf,—am fis cyfan,—ac, fel plant pob ardal, edrychai plant Trelan ymlaen yn awchus at bedair wythnos gyfan o lawenydd a mwyniant didor, yn rhydd o gaethiwed gwers a gormes cloch yr ysgol. Na feddylied y darllennydd bod plant Trelan yn casáu'r ysgol. O! na, yr oeddynt yn hoffi'r ysgol yn fawr, ac yn ei mynychu'n gyson; ond, ar dywydd